Hydref
Dydd Sul, Hydref 2il Dathlu Bwydydd Tymhorol
Marchnad Ffermwyr Glyndŵr
Profwch fwydydd Cymreig o safon ym Marchnad Ffermwyr Glyndŵr, Corwen, gyda 50 o stondinwyr yn gwerthu cynhyrchion lleol yn cynnwys llysiau ffres, cacennau, piclau a jam, bara, prydau parod, planhigion a chrefftau lleol o safon. Mae cigydd ar y safle hefyd a siop fferm. Adloniant byw trwy’r dydd gyda’r ‘Hot Foot Jazz Men’ - dewch i fwynhau!
Ystâd Rhug, Corwen
10.00am - 4.00pm
01691 860 357
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Hydref 7fed Diwrnod Blasu
Marchnad Wledig Rhuthun
Bydd dewis gwych o nwyddau cartref gan Farchnad Wledig Rhuthun ar gael i’w profi a bydd coffi neu de yn rhad ac am ddim i bob cwsmer.
Neuadd y Farchnad, Rhuthun
9.45am - 12.00pm
01824 702632
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Hydref 21ain
Marchnad Ffermwyr Glyndŵr
Cynhyrchion lleol ar werth yn cynnwys cacennau, piclau a jam, llysiau, prydau parod a stondinau crefftau.
Corwen
10.00am - 2.00pm
01691 860 357
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sadwrn, Hydref 16eg
Gŵyl Fwyd Llangollen
Bydd Jamie Owen, cyflwynydd Newyddion BBC Cymru yn agor yr ŵyl am 11am dydd Sadwrn gydag arddangosiad o goginio gyda’r Cogydd Dai Davies. Wedyn bydd dosbarthiadau coginio gan brif gogyddion o bob rhan o’r byd. Gyda mwy na 70 o gynhyrchwyr bwyd arbenigol yn arddangos yn y digwyddiad, dylai fod yn benwythnos o ‘ffiesta gloddesta’! Edrychwch o gwmpas y dref ar y cynigion ar gyfer y gystadleuaeth ‘ffenestr orau’ i ddathlu’r ŵyl fwyd. Bydd Jamie Owen yn cyhoeddi’r enillydd am 12.30pm.
Pafiliwn yr Eisteddfod, Llangollen, 10am - 5pm
Oedolion £3, Pensiynwyr £2, Plant £2, Parcio am Ddim
01824 705802
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sul, Hydref 17eg
Gŵyl Fwyd Llangollen
Ail ddiwrnod yr ŵyl gyda darlithoedd ar bobi, organeg, cig oen ac eidion lleol, a gwinoedd o’r neuadd fwyd yn y theatr fwyd. I ddod â’r dydd i ben byddwn yn tynnu’r raffl rad ac am ddim a bydd yr enillydd yn derbyn llond basgedaid o gynhyrchion o’r neuadd fwyd.
Pafiliwn yr Eisteddfod, Llangollen, 10am-5pm
Oedolion £3, Pensiynwyr £2, Plant £2, Parcio am Ddim
01824 705802
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sul, Hydref 16eg
Marchnad Ffermwyr Celyn
Un o’r marchnadoedd mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yng Nghymru! Dyma farchnad sydd wedi hen ennill ei phlwyf gydag enw da am ei chynhyrchion lleol o safon. Os nad ydych chi wedi bod eto, dydych chi ddim yn gwybod faint rydych chi’n ei golli!
Coleg Garddwriaeth Cymru, Llaneurgain
9.00am – 1.00pm
01352 781 695
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Hydref 28ain
Diwrnod ‘Deli’
Diwrnod ‘Deli’ arbennig yn Ninbych gyda stondinau bwyd ychwanegol ym mhen uchaf y dref. Cyfle i brynu bwydydd o bob math, llysiau tymhorol, cacennau blasus, cawsiau gwych, jamiau a siytni, a chigoedd o safon. Beth am ‘bician’ i mewn i’r caffi bach cynhesol am luniaeth ysgafn, a mwynhau awyrgylch cyfeillgar Marchnad y Bobl yn Ninbych.
Neuadd y Dref, Dinbych
9.00am – 2.00pm
01745 856348
« YN ÔL I'R BRIG »
Tachwedd
Dydd Gwener, Tachwedd 18fed Arddangosfa Nadolig
Marchnad Wledig Rhuthun
Dewch i edrych ar yr arddangosfa Nadolig lle bydd archebion yn cael eu cymryd ar gyfer y Nadolig – cacennau, piclau a jam, pwdinau, crefftau a threfniadau blodau ac ati.
Neuadd y Farchnad, Rhuthun
9.45am - 12.00pm
01824 702632
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Tachwedd 18fed
Marchnad Ffermwyr a Chaffi Glyndŵr
Cynhyrchion lleol ar werth yn cynnwys cacennau, piclau a jam, llysiau, prydau parod a stondinau crefftau.
Corwen 10.00am - 2.00pm
01691 860 357
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sul, Tachwedd 20fed
Marchnad Ffermwyr Celyn
Dewch i fwynhau’r profiad gwledig lleol sydd i’w gael ym Marchnad Ffermwyr Celyn lle mae dewis mawr o fwydydd o safon wedi eu tyfu’n lleol. Mae’r cynhyrchion yn cynnwys: cig oen ac eidion lleol, byfflo, pysgod, ffrwythau a llysiau ffres, caws, nwyddau wedi eu pobi a chrefftau lleol.
Coleg Garddwriaeth Cymru, Llaneurgain
9.00am – 1.00pm
01352 781 695
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Tachwedd 25ain
Marchnad y Bobl, Dinbych
Cyfle i brynu bwydydd lleol o bob math, llysiau’r tymor, cacennau blasus, cawsiau gwych, jamiau a siytni a chigoedd o safon. Neu dewch i bori trwy’r crefftau lleol, oll yn waith llaw artistiaid lleol. Galwch heibio i’r caffi bach cynhesol cyn i chi fynd a mwynhau’r awyrgylch cyfeillgar.
Neuadd y Dref, Dinbych
9.00am – 2.00pm
01745 856348
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Tachwedd 25ain Arddangosfa Nadolig
Marchnad Wledig Rhuthun
Dewch i weld yr arddangosfa Nadolig – lle byddwch yn gallu archebu ar gyfer y Nadolig – cacennau, piclau a jamiau, pwdinau, crefftau a threfniadau blodeuog ac ati.
Neuadd y Farchnad, Rhuthun
9.45am - 12.00pm
01824 702632
« YN ÔL I'R BRIG »
Rhagfyr
Dydd Iau, Rhagfyr 1af
Noson Fawr Nadoligaidd i Brofi Bwydydd Cymreig
Cyfle i flasu’r cynhyrchion gwych sydd ar werth yn Siop y Fro, Clawddnewydd yn ystod y noson arbennig hon. Basgedi bwyd, cacennau, cig, piclau, pasteiod a danteithion Nadoligaidd eraill ar gael.
Neuadd Bentref Cae Cymro, Clawddnewydd
01824 750289
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Rhagfyr 2il
Noson Hwyr Nadoligaidd Arbennig ym Marchnad y Bobl, Dinbych
Gwledd Nadoligaidd. Marchnad o fwydydd gwych a chrefftau o safon, stondinau addurnedig wedi eu llwytho gyda phwdinau Nadolig moethus a thaffi melys, cawsiau gwych a siytni cartref, cigoedd ffres organig. Anrhegion neu gardiau o waith llaw, yn cynnwys gemwaith cain, crochenwaith creadigol a gwaith celf wedi ei bersonoleiddio. Dewch i brofi’r mins peis yn y caffi bach cynhesol, a mwynhau Nadolig gwirioneddol draddodiadol yn y Farchnad Nadolig Arbennig hon. Cyn gynted ag y bydd hi wedi nosi, bydd goleuadau’r Nadolig yn cael eu troi ymlaen yn Ninbych a bydd y Nadolig yn gallu dechrau go iawn!
Neuadd y Dref, Dinbych
9.00am – 7.00pm
01745 856348
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Rhagfyr 2il Diwrnod Blasu
Marchnad Wledig Rhuthun
Bydd dewis gwych o nwyddau cartref gan Farchnad Wledig Rhuthun ar gael i’w profi a bydd coffi neu de yn rhad ac am ddim i bob cwsmer.
Neuadd y Farchnad, Rhuthun
9.45am - 12.00pm
01824 702632
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sul 4ydd Rhagfyr, Gŵyl Nadoligaidd o Fwydydd a Chrefftau Gwych
Marchnad Ffermwyr Glyndŵr
Mwy na 50 o stondinau’n gwerthu bwydydd a chrefftau Nadoligaidd arbenigol yn y farchnad awyr agored hon yn null oes Fictoria. Adloniant gyda chorau lleol, bandiau pres a band jas. Bydd mins peis a gwin cynnes ar gael yn rhad ac am ddim i bob cwsmer, a bydd croeso mawr i roddion ar gyfer Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Cystadleuaeth gwisg Fictorianaidd orau i’r stondinwyr - mae’n siŵr o fod yn hwyl!
Ystâd Rhug, Corwen
10.00am-4.00pm
01691 860 357
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Sul, Rhagfyr 18fed
Marchnad Ffermwyr Celyn – Marchnad Nadolig
Dewch i fwynhau awyrgylch unigryw Marchnad Nadolig Ffermwyr Celyn gyda dewis gwych o nwyddau’r Ŵyl ar gael i’w prynu er mwyn i’r Nadolig gael bod ychydig bach yn fwy arbennig!
Coleg Garddwriaeth Cymru, Llaneurgain
9.00am – 1.00pm
01352 781 695
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Rhagfyr 16eg
Marchnad Ffermwyr Glyndŵr
Dewch i’r farchnad i orffen eich siopa Nadolig gyda’r cynhyrchion lleol a’r crefftau Nadoligaidd sydd ar werth.
Corwen
10.00am-2.00pm
01691 860 357
« YN ÔL I'R BRIG »
Dydd Gwener, Rhagfyr 23ain
Marchnad y Nadolig, Marchnad Wledig Rhuthun
Eich cyfle olaf i wneud eich siopa Nadolig a chael llwyth o gynhyrchion lleol blasus wrth gefn ar gyfer yr Ŵyl!
Neuadd y Farchnad, Rhuthun
9.45am - 12.00pm
01824 702632
« YN ÔL I'R BRIG »
Arall
Pob dydd Gwener
Marchnadoedd Gwledig Sir Ddinbych
Mae’r Marchnadoedd Gwledig (Marchnadoedd Sefydliad y Merched gynt) yn farchnadoedd cydweithredol gwirioneddol ar agor i bawb dros un ar bymtheg oed gael gwerthu cynhyrchion wedi eu gwneud a’u tyfu gartref. Mae’r amrywiaeth o gynhyrchion yn cynnwys piclau a jam, pob math o nwyddau a danteithion wedi eu pobi, crefftau, planhigion a chynnyrch gerddi, oll wedi eu gwneud gyda’r gofal ychwanegol a geir gan y cynhyrchydd bach.
Marchnad Wledig Llangollen, Neuadd y Dref, Llangollen 9.45 - 12.30
Marchnad Wledig Rhuthun, Neuadd y Farchnad, Rhuthun 9.45 - 12.15
Marchnadoedd Gwledig Dinbych, Neuadd y Dref, Dinbych 10.00 - 12.00
Tel: 01246 261508
« YN ÔL I'R BRIG »